Negeseuon
yr Wythnos

Mae'r Clwb Brecwast ar agor yn ddyddiol o 08:15

Bwydlen ginio

Newyddion

Llythyrau

Calendr

 

-----------------------

Llythyr diweddaraf y Pennaeth 19/Ebr

 

Dydd Llun 22/04/24

  • Ymarfer pêl-droed merched bl.5a6
    3:30-4:30yp

Dydd Mawrth 23/04/24

  • Blwyddyn 4 i Barc Coedwig Penglais
  • Ymarfer pêl-droed bechgyn bl.5a6
    3:30-4:30yp
  • Dyddiad Cau Celf a Chrefft yr Urdd

 

Dydd Mercher 24/04/24

  • Gwasanaeth ysgol gyfan
  • Blwyddyn 3 i Fferm Peithyll
  • Ymarfer Cân Actol
    3:30-4:45yp
  • Clwb yr Urdd i fl.1,3a5
    3:30-4:30yp

 

Dydd Iau 25/04/24

  • Nofio i fl.6 a 4
  • Twrnamaint Pêl-droed yr Urdd ym Mlaendolau

 

Dydd Gwener 26/04/24

  • Ymarfer Cerddorfa Ysgol 8:45yb

 

LAWRLWYTHIADAU

Y Cyngor Ysgol a Phwyllgorau Plant

Croeso i wybodaeth a digwyddiadau 2023-2024

 

CYNGOR YSGOL : PWY YDYM NI A BETH RYDYM YN EI WNEUD?

Rydym yn griw o ddisgyblion a etholwyd gan blant ein dosbarthiadau er mwyn eu cynrychioli yn y cyfarfodydd. Rydym yn cyfarfod pob mis gyda Mrs Jones lle fyddwn yn trafod gwahanol ffyrdd o wella'r ysgol ac yn trefnu gweithgareddau gwahanol hefyd.

 
 
 
Harri
Cynrychiolydd Bl.6
 
Eiry
Cynrychiolydd Bl.6
 
Herbie
Cynrychiolydd Bl.6
 
Millie
Cynrychiolydd Bl.6

 
 
 
 
 
 
Cadi
Cynrychiolydd Bl.5
 
Sophie
Cynrychiolydd Bl.5
 
Elan
Cynrychiolydd Bl.4
 
Eila
Cynrychiolydd Bl.4
 
 
 
   
     
   
Macs
Cynrychiolydd Bl.3
  Ezra
Cynrychiolydd Bl.3
   
             

 

 

 

Medi 2023

Cofnodion y Cyfarfod Cychwynnol

 

Cafwyd cyfarfod cychwynnol o’r Cyngor Ysgol i drafod pa bwyllgorau plant fydd yr aelodau yn mynychu eu cyfarfodydd yn ystod y flwyddyn. Penderfynwyd rhannu yr aelodau fel hyn:

 

Herbie

Eiry

Harri

Millie

Cadi

Sophie

Elan ac Eila

Macs ac Ezra

Pwyllgor E-ddiogelwch

Pwyllgor Eco

Pwyllgor Taclo’r Toiledau

Pwyllgor Gorau Chwarae – Cyd Chwarae

Pwyllgor Llesiant

Y Siarter Iaith

Pwyllgor Gwrth fwlio

Pwyllgor Dyngarol

 

Tasg gyntaf y Cyngor Ysgol fydd mynychu’r cyfarfodydd hyn a’u cynorthwyo i fwydo i mewn i’r cynllun ar gyfer y tymor.

 
   

 

 

Medi 2023

Jeans for Genes

 

Diolch i bawb a gefnogodd yr ymgyrch i godi arian ar gyfer Jeans for Genes a dysgu mwy amdano gan gydnabod bod pawb yn wahanol.  Llwyddwyd i godi £172.42.

 
 

 

 

Hydref 2023

Bocsys Anrhegion yr Wcrain

 

Diolch yn fawr i Jenny am ein gwahodd i drefnu casgliad bocsys anrhegion Nadolig ar gyfer plant yn yr Wcrain.  Pwysig tu hwnt yw meddwl am yr amser echrydus mae’r plant yma’n ei brofi ar hyn o bryd. Diolch i chi blant a rhieni am y cyfraniadau hael.

 
 

 

 

Tachwedd 2023

Pabi Coch

 

Gyda Sul y cofio ar y gorwel, buom ym gwerthu pabi coch i staff a disgyblion yr ysgol er mwyn codi arian ar gyfer y Royal British Leigon.  Diolch i bawb am fod mor gefnogol a chofio ar adeg pan mae rhyfeloedd yn dal i'n heffeithio heddiw.

 
 

 

 

Tachwedd 2023

Sanau Sili

 

Y diwrnod perffaith i wisgo y sanau od ‘na sydd ar waelod y fasged ddillad yw Dydd Mercher y 15fed o Dachwedd fel rhan o’n gwaith i godi ymwybyddiaeth yn ystod wythnos gwrth- fwlio a dathlu ein bod ni gyd yn wahanol.  Edrychwn ymlaen at weld y sannau sili! 

 
 

 

 

Tachwedd 2023

Her Bearpees

 

Am gyffro oedd yn yr ysgol heddiw (15.11.23) wrth i Al Hughes o BBC Radio Cymru a Pydsi alw heibio i'n gweld yn cefnogi ei ymgyrch gyda her bearpees i godi arian ar gyfer Plant Mewn Angen.  Diolch i bawb am weithio mor galed a dilyn ein cyfarwyddiadau mor dda!

 
 

 

 

Tachwedd 2023

'Sgen ti dalent?

 

Cafwyd diwrnod gwerth chweil wrth godi arian ar gfyer Plant Mewn angen eleni gyda’r pwyllgor yn trefnu cystadleuaeth Sgen ti Dalent.  Roedd pawb wedi gweithio mor galed i berfformio amrywiaeth o eitemau, o gymnasteg , i ganu’r piano i driciau hud a lledrith.  Er bod Mrs Jones yn glyfar gyda’i thric hud a lledrith, Mr James oedd seren y sioe wrth iddo gerdded ar ei ddwylo! Talentog iawn Mr James!
Diolch i bawb am eu cyfraniadau, codwyd £394.04 at yr elusen! Diolch yn fawr.

 
 

 

 

Tachwedd 2023

Plannu coeden

 

Mwynhaodd y pwyllgor eco blannu coeden ar dir yr ysgol heddiw (29.11.23).  Diolch i Sue Jones-Davies ac i griw Gwyrddach Aberystwyth Greener am y goeden.  Rydym yn falch iawn i gael bod yn rhan o’r cynllun a helpu troi Aberystwyth yn le fwy gwyrdd.

 
   

 

 

Ionawr 2024

Bocsys Adar

 

Yn dilyn llwyddiant ymgyrch treegeneration a Glasu Iard yr Ysgol, rydym fel pwyllgor eco wedi bod yn ffodus i fedru archebu 4 bocs adar newydd ar gyfer yr ysgol.  Mwynhaodd y pwyllgor addurno’r bocsys a bydd e’n hyfryd eu gweld yn eu cartrefi newydd yn fuan. Diolch i bawb am eu cyfraniadau ariannol ac yn arbennig i Rob o Treegeneration am bopeth.

 
 

 

 

Ionawr 2024

Caru Gwenyn

 

Diolch unwaith eto i Rob Squires o Treegeneration, Sian Saunders o Gynllun Caru Gwenyn Llywodraeth Cymru a Jane Powell am ddod atom fel pwyllgor i sarad am yr ardd a chreu cynllun ar gyfer glasu’r ysgol.  Edrychwn ymlaen at fedru gwella’r ardaloedd o gwmpas yr ysgol.

 
 

 

 

Ionawr 2024

Disgo Dwynwen

 

I ddathlu diwrnod Santes Dwynwen eleni, drefnon ni ddisgo arbennig ar gyfer yr Ysgol gyfan.  Creodd criw blwyddyn 6 fidio yn gwahodd pawb I ymuno tra bod gweddill y cyngor Ysgol wedi mynd ati i greu rhestr chwarae arbennig ar gyfer yr achlysur. Roedd hi’n wych i weld pawb yn dangos ei symudiadau cŵl yn y neuadd.

 
 

 

 

Ionawr 2024

Bags2School

 

Diolch yn fawr iawn I bawb am yr holl gyfraniadau I’r casgliad Bags 2 School.  Gymerodd hi dipyn o amser i gludo’r bagiau i gyd I’r fan! Cyfanswm o £236.50! Gwych!

 
 

 

 

Chwefror 2024

Diwrnod Diogelwch y We

 

Heddiw rhannom neges bwysig gyda’r ysgol gyfan yn y gwasanaeth wrth i ni dynnu sylw ar ddiwrnod diogelwch y We.  Ydy mae’r we yn adnodd defnyddiol sydd yn rhan o fywyd pawb, ond mae’n dod gyda pheryglon sydd yn rhaid i ni dynnu sylw atynt.  Diolch i bawb am eu gwarndawiad gwych!

 
 

 

 

Chwefror 2024

Dydd Miwsig Cymru

 

Cofiwch ei bod hi’n ddydd Miwisg Cymru ar y 9fed o Chwefror!  Ewch ati i wrando a mwynhau amrywiaeth o gerddoriaeth Cymraeg. Beth am wrando ar rhai o ffefrynnau’r pwyllgor Siarter Iaith?

 
 

 

 

Chwefror 2024

Cylchgrawn newydd Buzzabazoo

 

Cylchgrawn newydd Buzzabazoo. Mae’r copi newydd yn barod. Mae Glasu Iard yr Ysgol yn ymgyrch i godi arian ac i addysgu pobl ifanc am fywyd gwyllt ac i wneud y mannau awyr agored yn fwy ecogyfeillgar. Edrychwch pwy sydd ar y dudalen flaen! Mwynhewch

 
 

 

 

Chwefror 2024

Cyfarfod yn Siambr y Cyngor

 

Diolch yn fawr I’r cynghorydd Kerry Ferguson am ein gwahodd i gyfarfod yn y siambr. Buon ni’n trafod sut i wario cyllideb y cyngor tref gan gael trafodaeth dda wrth bwyso a mesur ble oedd y llefydd fwyaf pwysig i wario’r arian.

 

 

 

Y PWYLLGORAU PLANT - PWY A BETH YW'R PWYLLGORAU PLANT?

Mae wyth o bwyllgorau i gyd. Penderfynwyd eu creu i glywed mwy o leisiau na llais y Cyngor Ysgol yn unig. Mae'r Pwyllgorau Plant yn cyfarfod i drafod y pethau pwysig sy'n dylanwadu ar fywyd yr ysgol, ac yn rhannu'r wybodaeth hynny gyda'r Cyngor Ysgol. Mae pob un o ddisgyblion Blwyddyn 6 ar bwyllgor sy'n golygu bod llais pawb ar frig yr ysgol yn cael ei glywed.

 

> Pwyllgor E-ddiogelwch

> Pwyllgor Eco

> Pwyllgor Taclo’r Toiledau

> Pwyllgor Gorau Chwarae – Cyd Chwarae

> Pwyllgor Llesiant

> Y Siarter Iaith

> Pwyllgor Gwrth fwlio

> Pwyllgor Dyngarol