Negeseuon
yr Wythnos
Mae'r Clwb Brecwast ar agor yn ddyddiol o 08:15
► Calendr
-----------------------
► Llythyr diweddaraf y Pennaeth 20/Tach
Dydd Llun 27/11/23
- Cofiwch am y Ffair Nadolig nos Iau yma!
- Bl.1a2 yn canu
- Band pres yr ysgol
- gweld poster
- gweld llythyr y GRhA
Dydd Mawrth 28/11/23
- Blwyddyn 6 yn y Neuadd yn ystod y bore mewn gweithdy celf Nadoligaidd
Dydd Mercher 29/11/23
- Gwasanaeth ysgol gyfan
- Myfyrwyr o'r Iseldiroedd yn ymweld
- Clwb yr Urdd bl. 2, 4 a 6
3:30 - 4:30yp
(Clwb yr Urdd olaf tan y gwanwyn)
Cofiwch fod angen bod yn aelod - ymaelodwch yma
Dydd Iau 30/11/23
- Nofio i fl.5 bore
Nofio i fl.3 prynhawn - Bore - Lansio llyfr newydd Caryl Lewis a Valeriane Leblond ym mlwyddyn 4
- FFAIR NADOLIG Y G.RH.A 6-8yh
- Bl.1a2 yn canu
- Band pres yr ysgol
- gweld poster
- gweld llythyr y GRhA
Dydd Gwener 01/12/23
- Cerddorfa 8:45yb
LAWRLWYTHIADAU
Archif
Newyddion Mehefin 2012 |
|
CWIS Y CYNGOR LLYFRAU |
|
Llongyfarchiadau mawr i'r plant a gynrychiolodd yr ysgol yn Rownd Derfynol y Cwis Llyfrau eleni. |
|
GWIBDAITH BLWYDDYN 2 |
|
Yn y bore aethom i Ganolfan y Barcud yn Nhregaron. Roeddem yn llawn cyffro ac yn edrych ymlaen at gael gweld hen ystafell ddosbarth. Cafodd y merched wisgo pinaffor gwyn ac yna aethom i eistedd ar feinciau tu ol i ddesgiau pren. Roedd yn rhaid i ni siarad Saesneg yn y dosbarth neu fe fydden ni’n gorfod gwisgo’r Welsh Not am ein gwddf. Buom yn adio ac yn adrodd tabl 2 gan ddefnyddio abacws pren. Roedd yr athro yn ysgrifennu geiriau Saesneg ar y bwrdd du efo sialc. Cyn ateb cwestiwn roedd yn rhaid i ni ddweud ‘Please Sir..’ Cawsom gyfle i ysgrifennu ar lechen efo sialc ac yna i ysgrifennu ar bapur efo pen ac inc. Buom yn canu Doh-Re-Mi a chawsom gwis. Ar ôl hynny cawsom ddiod oren a chacen gry a chyfle i brynu pethau diddorol yn y siop. Yna nôl â ni i’r bws a theithio i Fwlch Nant yr Arian. Cawsom bicnic yno a chyfle i chwarae yn y parc. Buom yn cerdded o amgylch y llyn gan ddilyn map, darllen cliwiau a chwilio am anifeiliaid pren. Cawsom ddiwrnod wrth ein bodd!
|
|
LLUN YSGOL GYFAN |
|
![]() |
|
Mae'r llun ar gael i'w brynu o'r ysgol. Ewch i weld Wendy James am fwy o wybodaeth |
|
CYNGERDD HAF LWYDDIANNUS ARALL |
|
|
» Y Neuadd Fawr dan ei sang eleni eto wrth i holl blant yr ysgol berfformio amrywiaeth o eitemau ar y llwyfan. Diolch yn arbennig i'r Gymdeithas Rieni ac Athrawon am gynorthwyo gyda'r trefniadau ac i'r holl rieni a theuluoedd am gefnogi'r noson. Diolch yn fawr hefyd i'r holl noddwyr am eu cefnogaeth hael.
I archebu llun/iau cysylltwch gyda'r ffotograffydd Anthony Jarrett ar 01970 832726 neu gliciwch yma |
CYSTADLEUAETH GRICED CYLCH ABERYSTWYTH |
|
Da iawn i dîm Criced yr ysgol ar gystadlu mor dda yn nhwrnament Cylch Aberystwyth eleni. Llwyddodd y tîm i ennill y rownd gyntaf, cyn mynd ymlaen i ennill dwy gêm ac yna colli yn y gêm gyn-derfynol. Anlwcus bois! |
|
LLWYDDIANT YN EISTEDDFOD GENEDLAETHOL YR URDD ERYRI 2012 |
|
![]() |
Llongyfarchiadau i bawb a gystadlodd yn yr eisteddfod a gynhaliwyd yng Nglynllifon eleni. |
1afCyst. 177 |
|
1afCyst. 274 |
|
1afCyst. 201 |
|
2ailCyst. 245 |
|
2ailCyst. 277 |
|
|
3yddCyst. 242 |
ARTEFFACT BLWYDDYN 3 YN FUDDUGOL YN EISTEDDFOD GENEDLAETHOL YR URDD |
|
![]() ![]() |
» Yr arteffact buddugol ynghyd â'r dystysgrif |
PRINTIAU LLIW ELINOR YN AIL YN EISTEDDFOD GENEDLAETHOL YR URDD |
|
![]() |
» Printiau lliw Elinor a ddaeth yn agos iawn at y brig eleni. |
DIWRNOD PINC ER COF AM ANGHARAD MAIR WILLIAMS |
|
|
Trefnwyd 'Diwrnod Pinc' gan y Cyngor Ysgol heddiw i gofio am gyn-ddisgybl, Angharad Mair Williams a fu farw ar ddiwedd mis Tachwedd y llynedd yn 14 mlwydd oed. Roedd Angharad wrth ei bodd gyda'r lliw pinc, ac felly pa liw gwell i annog plant yr ysgol i wisgo ar ddiwrnod i'w coffau?! Diolch i bawb a gyfrannodd £1 am wisgo pinc - bydd yr arian yn cael ei gyfrannu i elusen Ysbyty Great Ormond Street, gyda rhai aelodau o staff, cyfeillion yr ysgol a theulu Angharad yn teithio i Lundain ganol mis Awst. |
MAE'R CYWION WEDI HEDFAN O'R NYTH! |
|
Fore dydd Iau diwethaf, ar ôl bron i bedair wythnos, fe wnaeth ein cywion bach hedfan y nyth. Roedd hi’n braf eu gweld yn tyfu’n ddigon mawr i adael ond hefyd yn drist iawn ar yr un pryd. Roedd y ddau oedolyn wedi bod yn weithgar iawn dros yr wythnosau yn chwilio am fwyd i’r cywion ac yn eu cadw’n gynnes, rydym yn gobeithio bod y cywion yn iawn ac yn mwynhau eu hunain. |
|
« Newyddion Mai 2012 / Newyddion Gorffennaf 2012 » |