Negeseuon
yr Wythnos

Mae'r Clwb Cynnar ar agor yn ddyddiol o 08:15

Bwydlen ginio

Newyddion

Llythyrau

Calendr

 

-----------------------

Llythyr diweddaraf y Pennaeth 11/Gor

 

Dydd Llun 14/07/25

  • 1:15 - 1:45yp - Cyfarfod i groesawu rhieni a disgyblion newydd mis Medi y Meithrin

Dydd Mawrth 15/07/25

  • Gwibdaith haf Bl.1a2

 

Dydd Mercher 16/07/25

  • Gwasanaeth Ysgol Gyfan
  • Gwibdaith haf Blwyddyn 4

 

Dydd Iau 17/07/25

 

Dydd Gwener 18/07/25

  • Diwrnod ola'r tymor
  • Gwasanaeth ffarwelio Blwyddyn 6 yn y bore, parti ffarwelio yn y prynhawn
  • Does dim Gwener Gwibio heddiw (beiciau, sgwteri ayyb)
  • Ysgol yn cau ar gyfer gwyliau'r haf. Bydd y tymor newydd yn cychwyn i blant ar ddydd Mercher 3ydd o Fedi (diwrnodau hyfforddiant staff ar y 1af a'r 2ail)

 

 

LAWRLWYTHIADAU

Archif

Newyddion Ebrill 2013

PENCAMPWYR TWRNAMENT PÊL-DROED Y CYLCH

Llongyfarchiadau i dim pêl-droed yr ysgol ar eu llwyddiant diweddar yn nhwrnament Pêl droed ysgolion Cylch Aberystwyth.

Cynhaliwyd y twrnament ar gaeau Blaendolau gyda'r bechgyn yn llwyddo i ennill pob un o'i gêmau gan gynnwys gêm derfynol agos iawn. Roedd y gêm mor agos fel y bu'n rhaid penderfynu trwy giciau o'r smotyn.

Da iawn chi, fechgyn.

 

PENCAMPWYR TWRNAMENT PÊL-RWYD Y CYLCH

Llongyfarchiadau i dim pêl-rwyd yr ysgol ar eu llwyddiant diweddar yn nhwrnament Pêl rwyd ysgolion Cylch Aberystwyth.

Cynhaliwyd y twrnament ar gyrtiau'r Ganolfan Hamdden gyda'r plant yn llwyddo i ennill pob un o'i gêmau yn ystod y prynhawn.

Da iawn chi, blant.

 

MATHEMATEGWYR BUDDUGOL 'GÊM 24'

Llongyfarchiadau gwresog i bedwar disgybl o flwyddyn 6 ar eu camp anhygoel o ennill cystadleuaeth 'Gêm 24' ysgolion Cylch Aberystwyth eleni.

Llwyddodd Dylan, Eleanor, Lisa a Peredur i gipio'r wobr yn dilyn wythnosau o ymarfer chwarae'r gêm yn yr ysgol.

Pob hwyl i'r pedwar yn y rownd sirol a gynhelir yn Felinfach hanner tymor nesaf.

 

TWRNAMENT PÊL DROED YR URDD I FECHGYN A MERCHED


Llongyfarchiadau i dimau pêl droed bechgyn a merched yr ysgol ar gystadlu mor dda yn nhwrnament yr Urdd yn ddiweddar.

Cynhaliwyd y gêmau ar gaeau Blaendolau, gyda'r timau'n cystadlu'n frwd yn erbyn ysgolion eraill sir Ceredigion.

Diolch i'r noddwyr Emo Oil a Brodwaith FFIGAR am noddi'r citiau hynod smart.

Da iawn chi blant am ymarfer yn gyson ac am gynrychioli'r ysgol mor dda.

 

SIOE 'WCW A SWYN YR ARDD'

Cafodd disgyblion y Cyfnod Sylfaen lawer o hwyl a sbri yng Nghanolfan y Morlan wrth fwynhau sioe arbennig iawn 'Wcw a Swyn yr Ardd'.

Yn y llun gwelwch rai o gymeriadau'r sioe gyda disgyblion yr ysgol. Bu'r plant yn ymuno yn yr hwyl wrth fesur, cyfri, bloeddio cyfarwyddiadau ac helpu Wcw trwy ganu hefyd.

Diolch i Gylchgrawn Wcw a'i ffrindiau am drefnu!

 

EISTEDDFOD RHANBARTH CEREDIGION 2013


Unawd Chwythbrennau Blwyddyn 6 ac iau
1af - Sophie Neal
Unawd Llinynnol Blwyddyn 6 ac iau
2il - Sophie Neal
Ensemble Offerynnol Blwyddyn 6 ac iau
1af - Grwp Sophie
Cerddorfa/Band Blwyddyn 6 ac iau
1af - Ysgol Gymraeg Aberystwyth

Llongyfarchiadau i bawb a gymrodd ran ac a gafodd llwyddiant yn yr Eisteddfod Rhanbarth eleni. Pob hwyl iddynt yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn Sir Benfro.

Canlyniadau:
Unawd Blwyddyn 2 ac iau
2il - Lili Davies
Unawd Blwyddyn 3 a 4
1af - Llŷr Eirug
Unawd Cerdd Dant Blwyddyn 3 a 4
2il - Llŷr Eirug
Llefaru Ungiol Blwyddyn 2 ac iau
2il - Tomos Lewis Evans
Llefaru Ungiol Blwyddyn 3 a 4
1af - Cadi Williams
Grŵp Llefaru Blwyddyn 6 ac iau
2il - Ysgol Gymraeg Aberystwyth
Côr Blwyddyn 6 ac iau
1af - Ysgol Gymraeg Aberystwyth

Dawns Unigol Blwyddyn 6 ac iau
1af - Nicole Michael Pugh
Grwp Dawnsio Creadigol
1af - Ysgol Gymraeg Aberystwyth
Grwp Dawnsio Cyfrwng Cymysg
2il - Ysgol Gymraeg Aberystwyth

 

 

« Newyddion Mawrth 2012 / Newyddion Mai 2012 »