Negeseuon
yr Wythnos
Mae'r Clwb Brecwast ar agor yn ddyddiol o 08:15
► Calendr
-----------------------
► Llythyr diweddaraf y Pennaeth 07/Mehefin
Dydd Llun 27/06/22
- Cofiwch am drefniadau'r Mabolgampau ar gyfer yr wythnos hon > gweld llythyr y Pennaeth
Dydd Mawrth 28/06/22
- Ras y Marathon yn ystod y prynhawn
Dydd Mercher 29/06/22
- ** WEDI GOHIRIO - gweld llythyr ** Mabolgampau'r Ysgol 12:45yp - dewis 1af - (yn ddibynnol ar y tywydd) > gweld llythyr y Pennaeth
- Does dim Clwb yr Urdd yr hanner tymor hwn
Dydd Iau 30/06/22
- Nofio ar gyfer dosbarth 6J
- ** WEDI GOHIRIO - gweld llythyr ** 2ail ddewis ar gyfer Mabolgampau (os yn wlyb ddoe)
- 2:00yp - taith Baton y Gymanwlad
Dydd Gwener 01/07/22
- Diwrnod H.M.S - staff yn unig. Ysgol ar gau i blant
LAWRLWYTHIADAU
Gair o groeso gan y Pennaeth
Croeso i chwi i dudalennau gwefan Ysgol Gymraeg Aberystwyth. Dyma ysgol Gymraeg benodedig gyntaf Cymru a sefydlwyd yn 1939 gan Syr Ifan ab Owen Edwards. Saith o blant oedd yn yr ysgol yn y dyddiau cynnar ond bellach mae’r ysgol wedi tyfu i dros bedwar cant o ddisgyblion. Daw’r disgyblion atom o dref Aberystwyth ac o’r ardaloedd gwledig cyfagos.
Tyfodd yr ysgol yn gyson yn ystod yr wythdegau a’r nawdegau wrth i mwy a mwy o rieni weld gwerth mewn addysg Gymraeg. Mae yna gynnydd sylweddol yn y nifer o rieni di-Gymraeg sy’n danfon eu plant i’r ysgol wrth iddynt weld manteision dwyieithrwydd.
Mae’r Llywodraethwyr mewn cydweithrediad ag Awdurdod Addysg Ceredigion wedi cydweithio’n glòs i sicrhau adeilad addas ac adnoddau pwrpasol er mwyn diwallu’r cynnydd yn niferoedd y disgyblion. Mae yna 18 o athrawon a dros 20ain o gynorthwywyr yn gweithio yn yr ysgol ynghyd â 15 o staff ategol. Mae’r tîm yn frwdfrydig ac yn gweithio’n galed i godi safonau a gwella’r ysgol yn barhaus.
Ymfalchïwn yn safonau cyrhaeddiad uchel yr ysgol, ac mae’r ystod eang o weithgareddau allgyrsiol hefyd yn bwysig inni, gyda disgyblion yn profi llwyddiant mewn amrywiol feysydd o eisteddfodau’r Urdd i fyd chwaraeon.
Ein nod yw datblygu’r plentyn cyfan a chreu awyrgylch ddiogel, hapus a Chymreig – “fel y cadwer i’r oesoedd a ddêl y glendid a fu”. Darllenwch ymlaen am ragor o wybodaeth, ac er mwyn cael rhyw flas o fwrlwm yr ysgol brysur hon.
Mr Clive Williams