Negeseuon
yr Wythnos

Mae'r Clwb Brecwast ar agor yn ddyddiol o 08:15

Bwydlen ginio

Newyddion

Llythyrau

Calendr

Crynodeb o'n Cwricwlwm

-----------------------

Llythyr diweddaraf y Pennaeth 22/Tach

 

Dydd Llun 02/12/24

  • Cofiwch am y Ffair Nadolig nos Fercher yma!

Dydd Mawrth 03/12/24

  • Blwyddyn 6 yn ymweld â Llyfrgell y Dref

 

Dydd Mercher 04/12/24

 

Dydd Iau 05/12/24

  • Nofio i fl.3 a 5

 

Dydd Gwener 06/12/24

  • Cerddorfa 8:30yb

 

LAWRLWYTHIADAU

Archif

Newyddion Mawrth 2012

ALUN WYN BEVAN YN LANSIO LLYFR Y GÊMAU OLYMPAIDD

» Rhai o ddigyblion yr ysgol yn dal eu copiau'n falch gyda'r awdur Alun Wyn Bevan

Croesawyd Alun Wyn Bevan yn gynnes i'n plith wrth iddo deithio o gwmpas ysgolion Cymru yn hyrwyddo'i lyfr newydd 'Y Gêmau Olympaidd'. Adroddodd sawl stori ddifyr sy'n ymddangos yn y llyfr, cyn ateb rhai o gwestiynau'r plant a llofnodi ar gyfer y rhai a oedd yn dymuno prynu copi. Diolch o galon iddo am ddod aton ni - rydyn ni'n edrych ymlaen yn fawr at ddarllen y llyfr!

 

DWYNWEN YN ENNILL RAS TRAWS GWLAD

» Dwynwen o flwyddyn 6 gyda'i medal aur

Llongyfarchiadau gwresog i Dwynwen o ddosbarth 6LL ar lwyddo i ennill ras traws gwlad De Cymru neithiwr. Yn dilyn ei llwyddiant yng nghystadleuaeth Dyfed wythnos ddiwethaf, rhedodd Dwynwen yn y ras yn Llandeilo gan gynrychioli Dyfed y tro hwn, a llwyddo i gipio'r fedal aur. Llongyfarchiadau mawr iddi.

 

 

SESIWN BONTIO GYDAG ADRAN DDRAMA PRIFYSGOL ABERYSTWYTH

» Disgyblion blwyddyn 6 gyda'r myfyrwyr

Diolch i fyfyrwyr y drydedd flwyddyn o Adran Ddrama Prifysgol Aberystwyth am eu hymweliad yn ddiweddar. Trwy berfformio a chynnwys y plant mewn trafodaethau, llwyddwyd i rannu gofidiau disgyblion blwyddyn 6 am y naid o'r ysgol gynradd i'r uwchradd. Tynnwyd eu sylw yn enwedig at fwlio-ar-lein sy'n rhywbeth sy'n cynyddu bob blwyddyn gwaetha'r modd. Diolch i'r criw ifanc am sesiwn hwylus ac addas iawn.

 

 

DAWNSIO AR GYFER SPORT RELIEF

» Mary ac Imogen yn cefnogi Sport Relief

 

Os fuoch chi yn y Noson Agored ddechrau'r wythnos ac yn crafu'ch pennau pwy oedd y ddwy a oedd yn dawnsio ger y brif fynedfa, wel, Mary ac Imogen o flwyddyn 6 oedden nhw yn codi arian i Sport Relief! A thrwy eich caredigrwydd chi ar y noson, llwyddwyd i godi £40. Diolch yn fawr i'r ddwy am ddawnsio ac i bawb a gyfrannodd.

 

ENILLWYR TWRNAMENT PÊL-RWYD CYLCH ABERYSTWYTH

» Tim pêl-rwyd yr ysgol

 

Llongyfarchiadau mawr i dim pêl-rwyd yr ysgol ar lwyddo yn nhwrnament pêl-rwyd y cylch.
Cynhaliwyd y twrnament ar gyrtiau Canolfan Hamdden Plascrug, a chwaraewyd cyfanswm o bedair gêm gan gynnwys gêm agos iawn yn y rownd derfynol wrth ennill o 3-2.
Da iawn chi ferched!

 

RHEDWYR TRAWS GWLAD DYFED

» Disgyblion yr ysgol fu'n rhedeg yng Nghystadleuaeth Traws Gwlad Dyfed

Llongyfarchiadau i bawb a gystadlodd yng nghystadleuaeth Traws Gwlad Dyfed a gynhaliwyd yng Nghaerfyrddin. Llongyfarchiadau yn arbennig i Rhys Evans o flwyddyn 3 am ddod yn 2il yn y ras i fechgyn ac i Dwynwen Davies o flwyddyn 6 am ddod yn 10fed yn y ras i ferched. Cafwyd llwyddiant hefyd fel timau gyda thîm merched blwyddyn 6 (Dwynwen, Lily a Mary) yn 2il, a thîm bechgyn blwyddyn 5 (Siôn, Huw a Peredur) yn 3ydd. Da iawn bawb.

 

CAMERA NATUR BLWYDDYN 5

 

cliciwch yma i wylio'r fideo ddiweddaraf
(mae'r nyth bron wedi'i chwblhau)

» Fideo dosbarth 5G yn dangos y Titw Tomos Las yn dechrau nythu yn y bocs natur

"Mae gennym focs adar newydd ym mlwyddyn 5. Bocs gyda chamera ynddo. Rydym wedi gosod y bocs adar yn yr Ardd Natur gyda chamera a gwifren yn cysylltu i sgrin yn y dosbarth. Rydym yn medru gweld beth sy'n digwydd yn y bocs natur, ac wedi deuddydd i osod y bocs dyma'r Titw Tomos Las yn dod i fusnesan! Ry'n ni'n gobeithio y bydd yn adeiladu ei nyth yno cyn hir."
Robert, Dosbarth 5G

 

ARAD GOCH YN CYFLWYNO AGOR DRYSAU

» Martin, Nico a rhai o ddisgyblion blwyddyn 3 yn cael hwyl gyda'r offerynnau

 

Cafodd blwyddyn 3 amser ardderchog y bore 'ma gyda Nico a Martin a'u perfformiad o "Cerddorfa Sydyn". Roedd yn sesiwn fywiog iawn, gyda phawb (gan gynnwys y staff) yn symud i gyfeiliant yr acordion a'r bas dwbl. Yn nes ymlaen, cafodd bawb eu cyflwyno i offeryn draddodiadol o Indonesia, sef yr Angklung. Ar ôl dosbarthu un i bob un, aethom ati i greu perfformiad rhythmig a swynol tu hwnt. Cerddorfa Sydyn yn wir!

 

EISTEDDFOD RHANBARTH CEREDIGION



» Llongyfarchiadau i bawb a gystadlodd yn yr Eisteddfod Rhanbarth ddydd Sadwrn

Canlyniadau:
Unawd Blwyddyn 5 a 6
1af - Anest Eirug
Unawd Cerdd Dant Blwyddyn 3 a 4
1af - Cadi Williams
Unawd Cerdd Dant Blwyddyn 5 a 6
1af - Anest Eirug
Deuawd Blwyddyn 6 ac iau
2il - Anest a Beca
Llefaru Unigol Blwyddyn 5 a 6
2il - Beca Williams
Cyflwyno Alaw Werin Unigol
1af - Beca Williams
Grŵp Llefaru Blwyddyn 6 ac iau
1af - Ysgol Gymraeg Aberystwyth
Côr Cerdd Dant Blwyddyn 6 ac iau
1af - Ysgol Gymraeg Aberystwyth
Ymgom Blwyddyn 6 ac iau
2il - Ysgol Gymraeg Aberystwyth
Côr Blwyddyn 6 ac iau
1af - Ysgol Gymraeg Aberystwyth
Cân Actol Blwyddyn 6 ac iau
1af - Ysgol Gymraeg Aberystwyth
Unawd Pres bl.6 ac iau
2il - Peredur Morgan
Unawd Chwythbrennau bl.6 ac iau
1af - Sophie Neal
Ensemble Offerynnol bl.6 ac iau
1af - Ensemble Pres yr ysgol
Cerddorfa/Band bl.6 ac iau
1af - Cerddorfa'r ysgol

 

WYTHNOS WYDDONIAETH A PHEIRIANNEG 2012

 

» Cylch lluniau disgyblion blynyddoedd 5 a 6 yn mwynhau gweithgareddau a drefnwyd gan Brifysgol Aberystwyth

Fel rhan o weithgareddau Wythnos Wyddoniaeth 2012 bu disgyblion Blynyddoedd 5 a 6 yn treulio'r bore mewn gweithdy ymarferol yn y Brifysgol. Roedd yn brofiad ardderchog a chyffrous i'r holl ddisgyblion.

Cliciwch yma i weld y lluniau i gyd

 

 

GERAINT AC ELIN O RAGLEN TAG YN YR YSGOL!

» Y cyflwynwyr teledu Geraint ac Elin gyda disgyblion blwyddyn 6

"Pan ddaethon ni mâs o'r gwasanaeth bore ma wnaethon ni ddychwelyd i'r dosbarth i ddarganfod Elin a Geraint yn ein dosbarth! Roedden nhw yma i siarad am TAG sef rhaglen deledu ar S4C. Fuon ni'n gwylio clipiau o'r rhaglen ac yna'n ateb cwestiynau. Roedd gwobrau am ateb yn gywir - ges i ddau wobr! Yna roedd pawb yn awyddus i gael llofnod y ddau seren deledu!"
Eluned, Dosbarth 6LL

 

EISTEDDFOD GYNRADD YR URDD, CYLCH ABERYSTWYTH





» Y Grŵp Llefaru, y Côr Mawr a'r Ymgom yn cystadlu ar lwyfan y Neuadd Fawr yn yr Eisteddfod Gylch

Llongyfarchiadau i bawb a gymrodd ran ac a gafodd llwyddiant yn yr Eisteddfod Gylch eleni. Pob hwyl i'r rhai a fu'n fuddugol yn yr Eisteddfod Rhanbarth wythnos nesaf

Canlyniadau:
Unawd Blwyddyn 3 a 4
2il - Cadi Williams
3ydd - Lois Hughes
Unawd Blwyddyn 5 a 6
1af - Anest Eirug
3ydd - Beca Williams
Unawd Cerdd Dant Blwyddyn 3 a 4
1af - Cadi Williams
2il - Llŷr Eirug
Unawd Cerdd Dant Blwyddyn 5 a 6
1af - Anest Eirug
2il - Beca Williams
Deuawd Blwyddyn 6 ac iau
1af - Anest a Beca
2il - Eluned a Rhianedd
Llefaru Ungiol Blwyddyn 3 a 4
2il - Cadi Williams
3ydd - Llŷr Eirug
Llefaru Unigol Blwyddyn 5 a 6
1af - Beca Williams
3ydd - Anest Eirug
Cyflwyno Alaw Werin Unigol
1af - Beca Williams
2il - Anest Eirug
Grŵp Llefaru Blwyddyn 6 ac iau
1af - Ysgol Gymraeg Aberystwyth
Côr Cerdd Dant Blwyddyn 6 ac iau
1af - Ysgol Gymraeg Aberystwyth
Ensemble Lleisiol Blwyddyn 6 ac iau
2il - Anest, Beca a Siwan Heledd
Ymgom Blwyddyn 6 ac iau
1af - Ysgol Gymraeg Aberystwyth
Côr Blwyddyn 6 ac iau
1af - Ysgol Gymraeg Aberystwyth

 

EISTEDDFOD DDAWNS YR URDD, CYLCH ABERYSTWYTH

» Eisteddfod Ddawns Cylch Aberystwyth

Canlyniadau:
Dawns Greadigol Blwyddyn 6 ac iau
1af - Ysgol Gymraeg Aberystwyth
Dawns Cyfansoddiad Creadigol bl.6
1af - Ysgol Gymraeg Aberystwyth
Dawns Unigol Blwyddyn 6 ac iau
1af - Mary Grice Woods

 

EISTEDDFOD OFFERYNNOL YR URDD, CYLCH ABERYSTWYTH

» Cerddorfa'r Ysgol yn paratoi ar gyfer cystadlu yn Eisteddfod Offerynnol y cylch

Canlyniadau:
Unawd Pres bl.6 ac iau
1af - Peredur Morgan
Unawd Piano bl.6 ac iau
1af - Anest Eirug
Unawd Chwythbrennau bl.6 ac iau
1af - Sophie Neal
Ensemble Offerynnol bl.6 ac iau
1af - Ensemble Pres yr ysgol
2il - Ensemble Llinynnol yr ysgol
Cerddorfa/Band bl.6 ac iau
1af - Cerddorfa'r ysgol

 

RAS DYDD GŴYL DEWI AR Y PROM

» Aled, Ioan ac Osian yn dal eu tystysgrifau ac yn gwisgo'u medalau gyda balchder

Llongyfarchiadau i'r tri yma (a Dwynwen 6LL sy'n absennol o'r llun) am lwyddo i gwblhau'r ras arbennig a drefnwyd gan Fenter Aberystwyth ar y promenâd yn Aberystwyth dros benwythnos gŵyl Ddewi. Llwyddodd Ioan i ennill y ras i ddisgyblion blynyddoedd 3 a 4, gyda Dwynwen yn ennill y ras i ddisgyblion blynyddoedd 5 a 6.

 

GWASANAETH MASNACH DEG

» Disgyblion Blwyddyn 5 a fu'n rhannu eu neges gyda gweddill yr ysgol yn y gwasanaeth boreol

Faint ohonoch wyddoch ei bod hi'n bythefnos Masnach Deg? Bellach mae'r ysgol yn ceisio ennill statws Ysgol Masnach Deg, felly rydym yn brysur iawn yn ceisio annog staff yr ysgol i brynu tê a choffi Masnach Deg i'r stafell staff, gweinwyd coffi Masnach Deg yn y Prynhawn Coffi, yn ogystal â chynnal stondin nwyddau Masnach Deg. Rydym, fel eisoes, yn dysgu am Fasnach Deg yn y gwersi, ac mae'r siop ffrwythau yn gwerthu bananas Masnach Deg. Ydych chi'n gwneud ymdrech i brynu nwyddau Masnach Deg yn eich cartrefi chi?

 

LLWYDDIANT MEWN CYFEIRIANNU

» Hannah a Gwenllian yn dal eu tlysau buddugol

Llongyfarchiadau mawr i'r ddwy chwaer, Hannah a Gwenllian ar lwyddo yng Nghystadleuaeth Cyfeiriannu Cenedlaethol Cymru yng Nghaerdydd yn ddiweddar. Llwyddodd Hannah i ddod yn drydydd yn yr adran dan 10 oed, gyda Gwenllian yn ennill yn yr adran dan 12 oed. Da iawn chi'ch dwy!

 

DYDD GŴYL DEWI 2012



Cliciwch yma i weld y casgliad llawn ar flickr

» Cylch lluniau disgyblion yr ysgol yn eu gwisgoedd traddodiadol yn dathlu gŵyl ein nawddsant

 

"Un o fy hoff ddiwrnodau yn yr ysgol yw Dydd Gŵyl Dewi. Mae'n ddiwrnod pan mae pawb yn gwisgo naill ai eu gwisgoedd traddodiadol neu mewn crysau rygbi Cymru ac ati. Mae pawb yn gwisgo cennin neu genhinen bedr. Wnes i chwarae rhan cymeriad Dewi Sant yn y gwasanaeth bore ma, gan atgoffa pawb o eiriau olaf Dewi Sant:

'Byddwch lawen a chadwch eich ffydd a'ch cred, a gwnewch y pethau bychain a welsoch ac a glywsoch gennyf i.'"

Daniel, Dosbarth 6J

PRYNHAWN COFFI Y GRhA

» Yn agor y prynhawn eleni oedd ein gŵr gwadd Mr Meirion Appleton

Diolch yn fawr i bawb a gefnogodd y Prynhawn Coffi unwaith eto eleni.

Agorwyd y digwyddiad gan Mr Meirion Appleton, cyn-reolwr Clwb Pêl-droed Aberystwyth. Diolch o galon iddo am ei eiriau caredig, a diolch hefyd i bawb a gyfrannodd wobr ar gyfer y raffl fawr, gyda'r prif wobr yn bâr o docynnau ar gyfer gêm Cymru a Ffrainc. Llongyfarchiadau mawr i Danny o flwyddyn 3 am eu hennill. Gobeithio gei di ddiwrnod da!

 

COGINIO A GWERTHU PICE BACH YM MLWYDDYN 1

» Chloe, Cerys ac Aimee yn gwerthu pice bach i rieni ac ymwelwyr wrth prif fynedfa'r ysgol

"Rydym wedi bod yn brysur iawn yn coginio pice bach yn y dosbarth. Ar ol eu coginio wnaethon ni eu rhoi mewn bagiau bach plastig ac yna rhoi label cynhwysion a phris arnyn nhw. Rydym wedi gwerthu llawer iawn o becynnau! Byddwn yn defnyddio'r arian i brynu teganau newydd i'r dosbarth."
Chloe, Cerys ac Aimee,
Dosbarth 1W ac 1R


Diolch yn fawr i Morrisons am gyfrannu'r cynhwysion ar gyfer coginio'r pice bach i gyd yn rhad ac am ddim

« Newyddion Chwefror 2012 / Newyddion Ebrill 2012 »