Negeseuon
yr Wythnos
Mae'r Clwb Brecwast ar agor yn ddyddiol o 08:15
► Calendr
-----------------------
► Llythyr diweddaraf y Pennaeth 04/Hydref
Dydd Llun 07/10/24
Dydd Mawrth 08/10/24
- P.C Hannah ym mlwyddyn 6
- Ymarfer rygbi tag ar gyfer merched bl.5a6 3:30—4:30yp
Dydd Mercher 09/10/24
- Gwasanaeth ysgol gyfan
- Clwb yr Urdd i fl.2,4a6
3:30-4:30yp - cofiwch fod angen bod yn aelod o'r Urdd ar gyfer hyn
Dydd Iau 10/10/24
- Nofio i fl.4 a 6
- * DOES DIM GEMAU AR GYFER YR YSGOL GYRAEG WYTHNOS HON* Gêmau hoci i fl.6 - tri thîm o'r ysgol yn chwarae'n wythnosol - gweld amserlen
Dydd Gwener 11/10/24
- Diwrnod Rhyngwladol yr ysgol
LAWRLWYTHIADAU
Archif
Newyddion Ionawr 2012 |
|
GALA NOFIO CENEDLAETHOL YR URDD YNG NGHAERDYDD |
|
» Disgyblion yr ysgol yn sefyll yn ymyl pwll nofio cenedlaethol Caerdydd ar gyfer gala derfynol yr Urdd.
Llongyfarchiadau i'r holl ddisgyblion a deithiodd i lawr i Gaerdydd dros benwythnos olaf Ionawr ar gyfer cystadeluaeth gala nofio cenedlaethol yr Urdd, a hynny'n dilyn eu llwyddiant yng ngala Ceredigion. Diolch hefyd i'r rhieni am eu cefnogaeth parod, ac i'r Urdd am drefnu digwyddiad arall penigamp! |
|
PENBLWYDD YR URDD YN 90 OED! |
|
» Eleni mae'r Urdd yn dathlu 90 mlynedd ers i'r mudiad gael ei sefydlu gan Syr Ifan ab Owen Edwards - yr un gŵr a sefydlodd ein hysgol ni. Cafwyd parti mawr gyda phlant yr ysgol wedi'u gwisgo mewn coch, gwyn a gwyrdd, a dros 500 o gacennau bach crwn yn creu bathodyn enfawr yn y neuadd. Croesawyd Wedi 3 i'r ysgol i ffilmio'r plant yn canu Pen-blwydd hapus i'r Urdd, yn ogystal â chân Hei! Mistar Urdd. Edrychwn ymlaen yn fawr at y parti mawr nesaf ymhen deng mlynedd... |
|
CYSTADLEUAETH GYMNASTEG YR URDD |
|
» Llongyfarchiadau mawr i'r merched am gystadlu mor arbennig o dda yng nhystadleuaeth gymnasteg yr Urdd. Cystadlodd y bedair mewn cystadlaethau i barau, gydag Elinor a Carys yn llwyddo i gipio'r ail wobr mewn cystadleuaeth uchel iawn ei safon. |
|
BARDD PLANT CYMRU YN YMWELD Â'R YSGOL |
|
» Eurig Salisbury, Bardd Plant Cymru 2011-2013 yn cynnal gweithdy gyda disgyblion Blwyddyn 6
Fel rhan o gynllun adfer y Prom yn Aberystwyth, daeth Eurig atom er mwyn gweithio gyda chriw o flwyddyn 6 er mwyn cael ysbrydoliaeth (ac ychydig o gymorth!) wrth ysgrifennu darnau o farddoniaeth i'w cyflwyno maes o law i gynllunwyr y Prom. |
|
DATHLIADAU DIWRNOD SANTES DWYNWEN |
|
» Cylch lluniau disgyblion yr ysgol yn mwynhau dysgu am Santes Dwynwen trwy wahanol weithgareddau
|
|
CARDIAU SANTES DWYNWEN AR WERTH! |
|
» Mae disgyblion yr ysgol wedi bod yn brysur iawn yn cynllunio cardiau cyfarch ar gyfer Diwrnod Santes Dwynwen (Ionawr 25ain). Mae'r cardiau ar werth yn yr ysgol ac ar y stondin wrth y brif fynedfa yn foreol. Pris pob carden yw 50c - bargen yn wir! |
|
CYSTADLEUAETH PÊL-RWYD YR URDD |
|
» Llongyfarchiadau i dim pêl-rwyd yr ysgol ar gystadlu yn arbennig o dda yng nghystadleuaeth Pêl-rwyd yr Urdd ar gyfer cylch Aberystwyth. |
|
EMO OIL YN PRYNU CIT NEWYDD SBON I'R TÎM HOCI |
|
» Mr Williams, Mr Jones ac un o dimau hoci yr ysgol yn derbyn cit newydd sbon gan Mr Martin Atkinson, Cynrychiolydd o Gwmni Emo Oil yn Aberystwyth.
Mae'r ysgol yn ddiolchgar iawn i Emo Oil am ei haelioni, ac mae'r disgyblion i gyd yn edrych ymlaen yn eiddgar i'w gêm nesaf er mwyn gwisgo'r cit newydd sbon!
|
|
« Newyddion Rhagfyr 2011 / Newyddion Chwefror 2012 » |