Negeseuon
yr Wythnos

Mae'r Clwb Cynnar ar agor yn ddyddiol o 08:15

 

Llythyr diweddaraf y Pennaeth 22/Mai

 

Dydd Llun 01/06/26

  • Ail hanner tymor yr haf yn cychwyn
  • Gwersi beicio i flwyddyn 6 yn ystod y bythefnos nesaf
  • Nofio i flwyddyn 5 (bore)

Dydd Mawrth 02/06/26

  • Blwyddyn 5 yn ymweld â fferm yn Llangeitho trwy'r dydd
  • Ymarfer pêl-droed i dîm bl.3a4 3:30-4:30yp

 

Dydd Mercher 03/06/26

  • Gwasanaeth ysgol gyfan
  • Gwers yng nghwmni deintyddion yn y Derbyn
  • Clwb Darllen amser cinio
  • Does dim Clwb yr Urdd yr hanner tymor hwn

 

Dydd Iau 04/06/26

  • Nofio i flwyddyn 3 (prynhawn)
  • Yr awdur Endaf Griffiths yn ymweld â bl.5 yn y bore
  • Twrnamaint pêl-droed i fl.3a4 yn Llangrannog

 

Dydd Gwener 05/06/26

  • Ysgol Penglais yn cwrdd â disgyblion bl.6 sy'n trosglwyddo ym mis Medi

 

 

LAWRLWYTHIADAU

Gair o groeso gan y Pennaeth

Croeso i chi i dudalennau gwefan Ysgol Gymraeg Aberystwyth. Dyma ysgol Gymraeg benodedig gyntaf Cymru a sefydlwyd yn 1939 gan Syr Ifan ab Owen Edwards. Saith o blant oedd yn yr ysgol yn y dyddiau cynnar ond bellach mae’r ysgol wedi tyfu i tua pedwar cant o ddisgyblion. Daw’r disgyblion atom o dref Aberystwyth ac o’r ardaloedd gwledig cyfagos.
Tyfodd yr ysgol yn gyson yn ystod yr wythdegau a’r nawdegau wrth i mwy a mwy o rieni weld gwerth mewn addysg Gymraeg. Mae yna gynnydd sylweddol yn y nifer o rieni di-Gymraeg sy’n danfon eu plant i’r ysgol wrth iddynt weld manteision dwyieithrwydd.

 

Mae’r Llywodraethwyr mewn cydweithrediad ag Awdurdod Addysg Ceredigion wedi cydweithio’n glòs i sicrhau adeilad addas ac adnoddau pwrpasol er mwyn diwallu’r cynnydd yn niferoedd y disgyblion. Mae yna 14 o athrawon a phymtheg o gynorthwywyr yn gweithio yn yr ysgol. Mae’r tîm yn frwdfrydig ac yn gweithio’n galed i godi safonau a gwella’r ysgol yn barhaus.
Ymfalchïwn yn safonau cyrhaeddiad uchel yr ysgol, ac mae’r ystod eang o weithgareddau allgyrsiol hefyd yn bwysig inni, gyda disgyblion yn profi llwyddiant mewn amrywiol feysydd o eisteddfodau’r Urdd i fyd chwaraeon.

 

Ein nod yw datblygu’r plentyn cyfan a chreu awyrgylch ddiogel, hapus a Chymreig – “fel y cadwer i’r oesoedd a ddêl y glendid a fu”. Darllenwch ymlaen am ragor o wybodaeth, ac er mwyn cael rhyw flas o fwrlwm yr ysgol brysur hon.

 

Mr Gareth James