Negeseuon
yr Wythnos
Mae'r Clwb Brecwast ar agor yn ddyddiol o 08:15
► Calendr
-----------------------
► Llythyr diweddaraf y Pennaeth 22/Tach
Dydd Llun 02/12/24
Dydd Mawrth 03/12/24
- Blwyddyn 6 yn ymweld â Llyfrgell y Dref
Dydd Mercher 04/12/24
- Gwasanaeth Ysgol Gyfan
- Dim Clwb yr Urdd tan y gwanwyn
- FFAIR NADOLIG y G.Rh.A
5:30 - 7:30yh
gweld poster
gweld llythyr
Dydd Iau 05/12/24
- Nofio i fl.3 a 5
Dydd Gwener 06/12/24
- Cerddorfa 8:30yb
LAWRLWYTHIADAU
Newyddion
Hydref 2013 |
|
PENCAMPWYR RYGBI CEREDIGION! |
|
Llongyfarchiadau mawr i dîm rygbi'r ysgol ar eu llwyddiant arbennig yn nhwrnament rygbi'r Urdd, Rhanbarth Ceredigion yn ddiweddar. Llwyddodd yr ysgol i fynd drwodd i'r rowndiau terfynol gan chwarae gêm derfynol agos iawn iawn, gyda'r tîm yn llwyddo i sgorio cais yn y funud olaf er mwyn cipio'r bencampwriaeth. Pob hwyl iddynt yn y rownd genedlaethol. |
|
GORSAF FLASU I HYBU BWYTA'N IACH |
|
Mae’r ysgol yn ddiolchgar iawn i Brif Gogyddes yr ysgol sef Mrs Hefina Ellis a Jill Jones o’r Gwasanaeth Arlwyo am baratoi danteithion hyfryd yn ystod y prynhawn agored. Roedd y cyri yn flasus ac roedd y pitsa a’r cacennau yn boblogaidd iawn. |
|
DRAMA YM MLWYDDYN 3 |
|
Newyddion i ddilyn |
|
GWASANAETH DIOLCHGARWCH GYDA'R PARCH. EIFION ROBERTS |
|
Diolch yn fawr i'r Parchedig Eifion Roberts am ei gwmni a'i neges bwrpasol yng ngwasaneth diolchgarwch yr ysgol bore ma. Roedd yn wasanaeth ychydig yn wahanol wrth inni ddiolch am y cynhaeaf. Rhannodd digyblion blwyddyn 6 neges gyda gweddill yr ysgol yn gyntaf, cyn i Mr Roberts ein hannerch gyda'i neges yntau. Diolchwn iddo am ei gwmni unwaith yn rhagor, ac edychwn ymlaen i'w groesawu i'r Ysgol Gymraeg eto'n y dyfodol. |
|
HYFFORDDIANT HOCI GYDA'R URDD |
|
Cafodd disgyblion blwyddyn 6 gyfle i fireinio eu sgiliau pêl-rwyd yr wythnos hon wrth i hyfforddwyr o'r Urdd ymweld i rannu eu arbenigedd gyda ni. Diolch yn arbennig i Helen a Lowri am eu cwmni yn ystod y prynhawn, ac am ddysgu nifer o reolau a sgiliau newydd i'r plant. Edrychwn ymlaen i'ch croesawu eto y tymor nesaf. |
|
CASGLU BAGIAU 'bag2school' AR RAN Y G.RH.A |
|
Disgyblion Blwyddyn 6 yn helpu llwytho'r fan gyda'r bagiau a gasglwyd gan rieni'r ysgol. Diolch i bawb am eu cyfraniadau - mae'r dillad, esgidiau ayyb yn cael eu hanfon i'r cwmni a bydd yr ysgol yn derbyn £500 am bob tunnell a gasglwyd.
Cliciwch yma i ddysgu mwy am y cynllun |
|
BLWYDDYN 6 I'R LLYFRGELL GENEDLAETHOL |
|
Heddiw aeth y ddau ddosbarth Blwyddyn 6 ar ymweliad i'r Llyfrgell Genedlaethol i ddysgu mwy am ein thema 'Y Filltir Sgwâr' y tymor hwn. Roedd y Llyfrgell yn llawn gwybodaeth diddorol iawn. Cafwyd cyfle i edrych ar hen fapiau o Gymru gan ganolbwyntio ar Aberystwyth yn arbennig, yn ogystal â gweld lluniau o'n Milltir Sgwâr dros y ganrif a hanner ddiwethaf. Roedd y daith o amgylch hefyd yn hwyl, yn enwedig yr holl silffoedd a oedd yn pwyso pum tunnell yr un ac a oedd yn medru symud wrth droi olwyn ag un llaw! Waw! |
|
DIWRNOD T.LLEW JONES - BETHAN GWANAS YN YMWELD |
|
Ar ddydd Gwener Hydref 11eg, sef Diwrnod T.Llew Jones, bu disgyblion Blwyddyn 6 yn ffodus iawn o gael ymweliad gan yr awdures Bethan Gwanas, enillydd diweddar Gwobr Goffa T.Llew Jones. Cawsant fwynhad mawr o glywed Bethan yn darllen darnau o benodau cyntaf ei nofel arfaethedig, sy’n seiliedig ar hanes Gwylliaid Cochion Mawddwy, cyn mynd ati i gynllunio eu clawr eu hunain ar gyfer y nofel. Bu’n fore difyr iawn ac yn brofiad gwerthfawr i’r disgyblion – diolch yn fawr i’r Cyngor Llyfrau am drefnu’r ymweliad ac i Bethan Gwanas am gynnal gweithdy mor hwyliog a diddorol a daniodd ddychymyg y disgyblion. |
|
TRAWS GWLAD CYLCH ABERYSTWYTH |
|
|
Llongyfarchiadau i bawb a gymerodd ran yn y rasys Traws Gwlad a gynhaliwyd ar Gaeau'r Ficerdy eleni. Cymerodd dros 100 o blant ran yn y rasys, gyda chryn dipyn yn cael llwyddiant hefyd. Bydd y deg cyntaf o bob ras yn mynd ymlaen i gystadlu yn Ras Traws Gwlad Rhanbarth yr Urdd fis Mai nesaf. Digon o amser i ymarfer felly! |
HANNAH YN BENCAMPWRAIG CYFEIRIANNU CYMRU! |
|
Llongyfarchiadau gwresog i Hannah o flwyddyn 5 ar ennill cystadleuaeth dros y penwythnos sy'n ei gwneud hi'n bencampwraig cyfeiriannu Cymru! Enillodd Hannah yn y categori dan 10 oed tra'n cystadlu yn Ynys Mon. Bu'n rhaid iddi wibio o gwmpas coedwig gan ddefnyddio'i sgiliau darllen map gwych. Da iawn ti, Hannah. Tipyn o gamp yn wir! |
|
Y PWYLLGOR PIN MEWN PAPUR |
|
Mae criw o ddisgyblion Blynyddoedd 5 a 6 yn gweithio’n galed er mwyn gwella ymddangosiad prif fynedfa’r ysgol. Fel rhan o’r gwaith bu cynrychiolwyr o’r Pwyllgor yn danfon e-bost i Ganolfan Arddio Newmans ar y Waun. Dymuna’r ysgol ddiolch iddynt am ymateb yn bositif ac am gyfrannu planhigion am bris gostyngol. |
|
DIWRNOD RHYNGWLADOL 2013 |
|
|
Cynhaliwyd ein Diwrnod Rhyngwladol ar y 4ydd o Hydref eleni i ddathlu gwahanol ddiwylliannau a thraddodiadau gwledydd ein byd. |
FFILMIO AR GYFER DECHRAU CANU DECHRAU CANMOL |
|
 hithau ond yn ddechrau mis Hydref, rhyfedd iawn oedd gweld coeden Nadolig a llond lle o blant wedi'u gwisgo'n gynnes, gynnes gyda sgarffiau ac hetiau yn Eglwys Llanbadarn neithiwr! Beth oedd mlaen tybed? Wel ffilmio ar gyfer Dechrau Canu Dechrau Canmol wrth gwrs! Edrychwn ymlaen i weld y rhaglen yn ystod mis Rhagfyr. |
|
LLWYDDIANT MEWN NOFIO |
|
Llongyfarchiadau i'r chwech yn y llun ar eu llwyddiant mewn gala nofio dros y penwythnos. |
|
« Newyddion Medi / Newyddion Tachwedd » | |