Negeseuon
yr Wythnos

Mae'r Clwb Brecwast ar agor yn ddyddiol o 08:15

Bwydlen ginio

Newyddion

Llythyrau

Calendr

 

-----------------------

Llythyr diweddaraf y Pennaeth 06/Medi

 

Dydd Llun 09/09/24

  • Anfonwyd Llythyr y Pennaeth ar e-bost ddydd Gwener. Os na dderbynioch chi'r e-bost cysylltwch â ni er mwyn i ni eich hychwanegu i'r system

Dydd Mawrth 10/09/24

  • Ymarfer hoci i fl.6 3:30 - 4:30yp
  • Cofiwch ddychwelyd y taflenni data a'r llythyr caniatâd at yr athrawon dosbarth cyn gynted â phosib os gwelwch yn dda

 

Dydd Mercher 11/09/24

  • Gwasanaeth ysgol gyfan

 

Dydd Iau 12/09/24

  • Hoci i fl.6 (dau dîm yr ysgol - Pen dinas a Chraig Glais - 4:00 - 4:30yp) yng Nghanolfan Hamdden Plascrug
  • Bydd nofio yn cychwyn i fl.3-6 ddiwedd mis Medi

 

Dydd Gwener 13/09/24

  • Dim neges

 

LAWRLWYTHIADAU

Archif

Newyddion Hydref 2011

AWSTRALIA YN ENNILL CWPAN RYGBI'R BYD!

 

» Cylch lluniau gemau cynderfynol a gêm derfynol cystadleuaeth Cwpan Rygbi'r Byd yr ysgol

 

"Heddiw, ar ddiwrnod ola'r hanner tymor roedd hi'n ddiwrnod cyffrous iawn i bedwar tîm arbennig wrth gyrraedd y rownd cynderfynol: Awstralia yn erbyn Yr Alban, a Siapan yn erbyn Ffiji. Roedd y ddwy gêm yn agos iawn ond Awstralia a Siapan wnaeth gwrdd yn y ffeinal. Eto, cafwyd gêm agos iawn, ond fy nhîm i, Awstralia dan arweiniad ein hyfforddwr Mr Williams daeth i'r brig. Enillon ni o 24-7! Diolch i Mr Jones am drefnu'r twrnament yn ystod yr hanner tymor, gwnaeth bawb fwynhau yn fawr!"
Evan, Dosbarth 6LL

 

£406.40 I GYMORTH CRISTNOGOL

» Swyddogion y Cyngor Ysgol - Elinor, Evan, Joey a Siwan yn derbyn tystysgrif gan Gymorth Cristnogol i ddiolch am gyfraniad o £406.40 yn dilyn digwyddiad dyngarol a drefnwyd gan y Cyngor Ysgol yn ystod yr haf

 

CASGLU BAGIAU 'bag2school' AR RAN Y G.RH.A

» Disgyblion Blwyddyn 6 yn helpu llwytho'r fan gyda'r bagiau a gasglwyd gan rieni'r ysgol. Diolch i bawb am eu cyfraniadau - mae'r dillad, esgidiau ayyb yn cael eu hanfon i'r cwmni a bydd yr ysgol yn derbyn £500 am bob tunnell a gasglwyd.

 

Cliciwch yma i ddysgu mwy am y cynllun

 

DERBYN TYSTYSGRIFAU GAN LYFRGELL Y DREF

» Delyth Huws o Lyfrgell y Dref yn cyflwyno tystysgrifau 'Sêr y Syrcas' i rai o ddisgyblion yr ysgol a fu'n cymryd rhan yn Sialens Ddarllen yr Haf

 

"Rwy'n hoffi mynd i Lyfrgell y Dref bob wythnos gyda Mam a Betsan. Yn ystod gwyliau'r haf roeddwn yn cael gwobrau am fynd yno i fenthyg llyfrau! Ges i sticeri un tro, a bandyn braich dro arall! Derbyn io-io oedd fy hoff beth. Mae llawer o ddewis yn Llyfrgell y Dref - yn enwedig llyfrau Roald Dahl, dwi wrth fy modd gyda nhw!"
Gronw, Dosbarth 3M

 

ETHOL AELODAU NEWYDD I'R CYNGOR YSGOL

» Aelodau'r Cyngor Ysgol 2011-12

 

"Wedi imi gael fy ethol yn Gadeirydd y Cyngor Ysgol eleni, edrychaf ymlaen i gynrychioli fy nosbarth yn y cyfarfodydd, a chael cyfle i wrando ar syniadau plant eraill ar sut i wella'r Ysgol Gymraeg ar gyfer y disgyblion."
Elinor, Dosbarth 6J

 

SBRI DI-RI YR URDD

 

» Cylch lluniau disgyblion y Meithrin, Derbyn, Blwyddyn 1 a 2 yn mwynhau Sbri Di-Ri yr Urdd yng Nghanolfan Hamdden Plascrug

 

"Heddiw cerddom ni draw o’r ysgol i’r Ganolfan Hamdden i gymryd rhan yn Sbri Di-Ri. Roedd Mr Urdd yno yn cael parti pen-blwydd. Buom ni’n canu caneuon fel ‘Hei Mr Urdd’, ‘Sali Mali’ a ‘Jemeima Mop’ ac yn dawnsio tipyn. Roedd Sali Mali a Jac-Do yno hefyd, a chymeriad o’r enw Dewin. Cawsom ni sticeri i wisgo gyda’r llythyren ‘D’ am ‘Dewin’ arnyn nhw. Roedd Sali Mali wedi bod yn brysur iawn yn gwneud jeli a chacen pen-blwydd i Mr Urdd. Roedd Sbri Di-ri yn llawer o hwyl, yn enwedig canu ‘Hei Mr Urdd’!"
Owain a Catrin Haf, Dosbarth 1R

 

DATHLU DIWRNOD T.LLEW JONES

 

» Cylch lluniau o ddisgyblion yr ysgol yn dathlu diwrnod cenedlaethol yr awdur a'r bardd enwog T.Llew Jones

 

"Buom yn dathlu Diwrnod Cenedlaethol T.Llew Jones yn yr ysgol heddiw. Mae Hydref yr 11eg yn bwysig gan taw dyna oedd dyddiad pen-blwydd T. Llew Jones. Ym Mlwyddyn 6, buom yn darllen disgrifiad o Alff Boswell o’r nofel ‘Tân ar y Comin’ ac yn ateb cwestiynau arno. Buodd plant blynyddoedd eraill yn gwneud gweithgareddau i gofio am T.Llew Jones hefyd – fel creu ffeil ffeithiau amdano, efelychu cloriau rhai o’i lyfrau a darllen ei gerddi. Rydw i wedi darllen sawl un o lyfrau T.Llew Jones a fy ffefryn yw ‘Dirgelwch yr Ogof’. Rydw i hefyd wrth fy modd gyda ffilm ‘Tân ar y Comin’ ac wedi ei gwylio sawl gwaith. Mae’n bwysig cofio am T.Llew Jones bob blwyddyn gan ei fod yn arwr i blant Cymru."
Siwan Heledd, Dosbarth 6LL

 

BLWYDDYN 1 A 2 YM MHENTRE BACH

 

» Cylch lluniau o blant blwyddyn 1 a 2 ym ymweld â Phentre Bach

 

"Heddiw aethom i Bentref Bach i fwynhau a dathlu llyfrau T.Llew Jones. Roedd llawer ohonom wedi gwisgo fel môr ladron ac roedd hynny’n hwyl! Roedd nifer o weithgareddau grêt wedi eu trefnu i ni ym Mhentre Bach - fel helfa drysor lle'r oedd yn rhaid i ni ddod o hyd i wahanol lythrennau i sillafu dau air arbennig, sef ‘Siôn Cwilt’. Wedyn, gwelsom sioe am Siôn Cwilt, un o gymeriadau enwocaf T.Llew Jones, ac roedd yn rhaid i’r athrawon wisgo fel y cymeriad hefyd. Roedd rhaglen ‘Wedi 7’ yno yn ffilmio’r cyfan a bydd rhai ohonom o Flwyddyn 2 yn siarad ar y teledu. Yn y caffi ym Mhentre Bach, cawsom ni ddiod a bisged flasus iawn cyn dod nôl i’r ysgol."
Maria a Joseph, Dosbarth 2GJ

 

TRAWSGWLAD CYLCH ABERYSTWYTH

» Lily a Dwynwen ar y blaen yn y ras i ferched blwyddyn 6

 

Aeth dros wythdeg o blant yr ysgol i redeg yn y gystadleuaeth traws gwlad ar gyfer Cylch Aberystwyth a gynhaliwyd ar Gaeau'r Ficerdy. Roedd yna rasys ar gyfer bechgyn a merched o flynyddoedd 3 i 6, gyda dros 600 o ddisgyblion y cylch yn cystadlu i gyd. Llongyfarchiadau i bawb a gymerodd ran.

 

DIWRNOD RHYNGWLADOL YR YSGOL

 

» Cylch lluniau o ddigwyddiadau Diwrnod Rhyngwladol yr ysgol

 

"Daeth pawb o flwyddyn 3 i'r ysgol heddiw wedi'u gwisgo yn lliwgar dros ben oherwydd ein gwlad ni oedd Periw. Daeth Rhys Davies atom i ddysgu Sbaeneg i ni - rydw i'n medru cyfri i ddeg mewn Sbaeneg! Hefyd, daeth Mr Watkins a'i wraig ag Alpaca i ddangos inni. Roedd e'n greadur tawel, swil a chyfeillgar iawn. Roedd hi'n rhyfedd gweld Alpaca ar gae yr ysgol!"
Erin, Dosbarth 3M

 

BLWYDDYN 6 YN YMWELD Â'R LLYFRGELL GENEDLAETHOL

 

» Cylch lluniau ymweliad Blwyddyn 6 â'r Llyfrgell Genedlaethol ddechrau mis Hydref

 

"Roedd y Llyfrgell Genedlaethol yn llawn gwybodaeth diddorol iawn. Cawsom gyfle i edrych ar hen fapiau o Gymru ac Aberystwyth yn arbennig, yn ogystal â gweld lluniau o'n Milltir Sgwâr dros y canrif a hanner ddiwethaf. Roedd y daith o amgylch hefyd yn hwyl, yn enwedig yr holl silffoedd a oedd yn medru symud wrth droi olwyn! Diolch i Rhodri ac Owen am wneud yr ymweliad mor bleserus!"

Dwynwen, Dosbarth 6LL

« Newyddion Medi 2011 / Newyddion Tachwedd 2011 »