Negeseuon
yr Wythnos

Mae'r Clwb Cynnar ar agor yn ddyddiol o 08:15

Bwydlen ginio

Newyddion

Llythyrau

Calendr

 

-----------------------

Llythyr diweddaraf y Pennaeth 02/Mai

 

Dydd Llun 28/04/25

  • Croeso nôl! A chroeso arbennig i ddisgyblion newydd y Meithrin a'u teuluoedd heddiw
  • Tymor yr haf yn cychwyn
  • Gweler y Calendr Hanner Tymor newydd

Dydd Mawrth 29/04/25

  • Ymarfer Cerddorfa 8:45yb

 

Dydd Mercher 30/04/25

  • Gwasanaeth Ysgol Gyfan
  • Bl.3a4 am dro trwy goedwig Parc Penglais
  • Clwb yr Urdd i fl.1,3a5
    3:30 - 4:30yp
  • Ymarfer Cân Actol
    3:30 - 4:30yp

 

Dydd Iau 01/05/25

  • Nofio i fl.3a5
  • Sesiwn gyda'r awdures Meleri Wyn James i ddisgyblion Blwyddyn 6

 

Dydd Gwener 02/05/25

  • Dewch â'ch cynnyrch Celf a Chrefft yr Urdd i mewn heddiw os gwelwch yn dda (os ydych eisoes wedi cofrestru)

 

 

LAWRLWYTHIADAU

Beicio o Aber i Lundain

Awst 2012

ER COF AM ANGHARAD MAIR WILLIAMS

 

Angharad

Ar ddiwedd mis Tachwedd 2011, bu farw Angharad yn 14 mlwydd oed. Roedd hi'n gyfnod trist iawn i staff a disgyblion yr ysgol wrth gofio am gyn-ddisgybl hoffus a llawn bywyd er gwaethaf ei chyflwr meddygol a'r anawsterau a'i hwynebodd yn ddyddiol. Brwydrodd Angharad yn ddewr iawn gyda'i chyflwr EB drwy gydol ei bywyd, gan deithio i Ysbyty Great Ormond Street er mwyn derbyn triniaeth yn bythefnosol yn ystod ei blwyddyn olaf.

Y daith

Er mwyn diolch i'r ysbyty hwnnw ac mewn dathliad o fywyd Angharad rydym fel staff a chyfeillion Yr Ysgol Gymraeg wedi penderfynu beicio o'r Ysgol Gymraeg i Ysbyty Great Ormond Street yn Llundain yn ystod gwyliau'r haf eleni. Taith sydd yn 220 milltir o hyd. Bwriad y daith yw i gyflwyno siec i'r ysbyty o'r arian a godir trwy weithgareddau a drefnir gan ddisgyblion yr ysgol yn ystod tymor yr haf, a'r arian a godir trwy nawdd ar gyfer y daith feics ei hun.

Noddi

Os hoffech chi noddi'r achos teilwng hwn gallwch naill ai fynd i ystafell Mr Clive Williams y Pennaeth neu at Ffion yr Ysgrifenyddes i lenwi ffurflen noddi, neu gliciwch yma i gyfrannu ar dudalen JustGiving. Os ydych yn fusnes ac hoffech noddi drwy osod eich logo ar ein crysau beicio, cysylltwch â Mr Gareth James y Dirprwy drwy e-bostio gareth.james@ysgolgymraeg.ceredigion.sch.uk

Diolch.

Oeddech chi'n gwybod?

Ganwyd Angharad ar yr
16eg o Orffennaf 1997

Hoff liw Angharad oedd pinc!

Roedd Angharad wrth ei bodd
yn tynnu coes a chwarae jôcs
ar bobl!


Roedd hi wrth ei bodd yn darllen,
ac yn casau Mathemateg!


 

 

i ddarllen adroddiad y Diwrnod Pinc ewch i Newyddion Mehefin
 
i ddarllen adroddiad Diwrnod Angharad ewch i Newyddion Gorffennaf