Negeseuon
yr Wythnos

Mae'r Clwb Brecwast ar agor yn ddyddiol rhwng 0815 - 0845

Bwydlen ginio

Newyddion

Llythyrau

Calendr

DYDD LLUN 16/Ebr

  • Diwrnod H.M.S - staff yn unig

DYDD MAWRTH 17/Ebr

  • Sesiwn 'Diogelwch' gyda PC Hannah Evans gyda blwyddyn 4
  • Blwyddyn 6 i Lyfrgell y Dref

DYDD MERCHER 18/Ebr

  • Pêl-droed yr Urdd ar gyfer bechgyn a merched ar Gaeau Blaendolau
  • Clwb yr Urdd i fl.1,3a4
    3:30-4:30yp

DYDD IAU 19/Ebr

  • Nofio i fl.3a4
  • Trawsgwlad Ceredigion yn Aberaeron (bws yn mynd o'r ysgol)

DYDD GWENER 20/Ebr

  • Cerddorfa Ysgol 8:45yb
  • Twrnament Rygbi Tag Merched yn Aberaeron
  • Clwb rhedeg Chwys Trabŵd am 2:30yp

 

LAWRLWYTHIADAU

Ysgol iach

 

 

"Mae Ysgol Gymraeg Aberystwyth yn aelod gweithgar o Gynllun Ysgolion Iach – Rhwydwaith Cymru. Mae ysgol iach yn ysgol sy’n mynd ati i hybu a diogelu iechyd a lles corfforol, meddyliol a chymdeithasol ei chymuned trwy gymryd camau cadarnhaol megis llunio polisïau, gwneud gwaith cynllunio strategol a datblygu staff, mewn perthynas â chwricwlwm, ethos ac amgylchedd ffisegol yr ysgol a’i chysylltiadau â’r gymuned."

 

Mae gan yr ysgol y sgor uchaf o safbwynt hylendid yn y gegin

 
 
 

 

Cliciwch ar y ddogfen uchod i ddysgu mwy am hylendid
 
 
 

Cofiwch olchi eich dwylo yn gywir!

 
 

Mae Polisi Toiledau bellach yn bolisi statudol ym mhob ysgol. Cliciwch isod i ddarllen y polisi:

Polisi Toiledau

 
 
 

Atgoffir plant i olchi eu dwylo cyn bwyta o'r Siop Ffrwythau hefyd

 
 

Er mwyn gweld os yw'r plant yn yfed digon o ddwr, mae posteri ar gael iddynt yn y toiledau i fesur lliw eu pi-pi!